Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966

Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966
Enghraifft o'r canlynolEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad31 Mawrth 1966 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1964 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1970 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Galwyd etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966 ar y 31 Mawrth, 1966 gan y prifweinidog ar y pryd: Harold Wilson. Dychwelwyd y Llywodraeth Lafur gyda mwyafrif o 96 Aelod Seneddol.[1] Gwnaeth y penderfyniad hwn i alw etholiad am sawl rheswm; yn gyntaf, dim ond 17 mis ynghynt yr etholwyd ei blaid i lywodraethu ac oherwydd y mwyafrif bychan oedd ganddo, roedd llywodraethu'n fwrn ac yn anodd. 4 aelod seneddol oedd ei fwyafrif. Yn ail, cafwyd isetholiad yng Ngogledd Hull ychydig ynghynt. Roedd yn llygad ei le ac etholwyd y Blaid Lafur yn eu holau - gyda mwyafrif o 96. Noda gwefan y BBC fwyafrif o 363 seats, sy'n rhoi mwyafrif o 96, gan fod sedd y LLefarydd yn cael ei restru fel "Arall".[2]

Darlledwyd y noson yn fyw gan y BBC a chyflwynwyd y noson gan Cliff Michelmore, Robin Day, Robert McKenzie a David Butler.[1]

  1. 1.0 1.1 BBC News Election replay 1966
  2. 1966: Wilson gains mandate BBC News

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search